“Nid Prifysgol yng Nghymru yn unig yw Caerdydd, ond Prifysgol Gymreig”

Am y tro cyntaf ers ei sefydlu mae Uneb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi penodi Swyddog y Gymraeg llawn amser.

Deio Owen fydd y cyntaf i wneud y gwaith ac fe fydd yn dechrau fis Gorffennaf 2023.

Ers sefydlu Undeb y Myfyrwyr (UM) ym 1973 bu galw cyson i sefydlu’r swydd, ond hyd eleni gwrthod wnaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr UM.

Mae’r rôl yn “hanfodol” meddai Deio, a gafodd ei ethol yn Is-lywydd Swyddog y Gymraeg, Cymuned a Diwylliant ar ôl derbyn 5,171 o bledleisiau yn etholiad y gwanwyn.

“Caerdydd ydy’r Brifysgol fwyaf yng Nghymru ac mae’r Gymraeg yn chwarae rhan mor allweddol i fyfyrwyr sy’n astudio yma…,” meddai.

“Mae’n bwysig bod ganddo ni lais ar gyfer myfyrwyr Cymraeg, mae’n hanfodol fod pobl sy’n dod i Gaerdydd i astudio yn cael profiad Cymreig yn y brifddinas. Mae’n dangos fod ganddo ni brofiad gwahanol yma”

O fewn y strwythur sy’n bodoli ar hyn o bryd gwaith gwirfoddol a rhan-amser oedd cynrychioli’r Gymraeg. Gall hynny rhoi pwysau ar fyfyriwr yn ei flwyddyn ola, meddai Deio,: “Yn amlwg dw i’n gyfyngiedig o’r hyn dw i’n medru gwneud gan ‘mod i’n ceisio cwblhau fy ngradd ar yr un pryd”.

Caerdydd ar ei hôl hi

Mae prifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi cael swyddogion y Gymraeg ers degawdau, tra bod prifysgol Abertawe wedi penodi person llawn amser yn 2019.

Dafi Jones yw Is-lywydd Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, dwedodd bod y rôl yn caniatáu iddo “drefnu digwyddiadau a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg i gymdeithasu ac i gael profiadau hanfodol”.

Blynyddoedd o brotestio

Mae’r galw am Swyddog Cymraeg llawn amser wedi cynyddu yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf gyda phrotestiadau ac ymgyrchoedd.

2015

Dwy ymgyrch yn dadlau o blaid ac yn erbyn y rôl

Y ddadl o blaid: “Mae’r iath yn perthyn i holl fyfyrwyr Caerdydd a bod angen ei chynrychioli’n deg.”

Y ddadl yn erbyn: ” Mae yna ddulliau mwy effeithiol i wella gwasanaethau’r iaith Gymraeg heb reolwr canol a biwrocratiaeth ychwanegol.”

Cafodd refferendwm ei gynnal gyda 52% yn erbyn a 48% o blaid, Gyda thros 2300 yn pleidleisio. .

2017

Undeb y Myfyrwyr yn cyhoeddi polisi iaith Gymraeg newydd a arweiniodd at greu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC).

2018-19

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr UM yn gwrthod dau gynnig i sefydlu Swyddog y Gymraeg llawn amser.

2021

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn creu swyddog ar gyfer y Gymraeg a’i diwylliant yn dilyn ymateb cadarnhaol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

I wneud lle i’r swyddog, mae’r bwrdd wedi ail strwythuro a chyfuno rhai o’r dyletswyddau i’r swyddogion eraill.